Offerynnau Statudol sydd ag adroddiadau clir, a ystyriwyd yn flaenorol ar gyfer sifftio ac sydd bellach yn ddarostyngedig i graffu o dan Reolau Sefydlog 21.2 a 21.3

07 Hydref 2019

Cafodd yr offeryn canlynol ei ystyried yn flaenorol i'w sifftio yn unol â Rheol Sefydlog 21.3B. Yn y broses sifftio, cytunodd y Pwyllgor mai'r weithdrefn briodol ar gyfer y Rheoliadau oedd y weithdrefn penderfyniad negyddol. Bellach mae'r offeryn yn ddarostyngedig i graffu arferol yn unol â Rheolau Sefydlog 21.2 a 21.3.

SL(5)449 – Rheoliadau Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Gweithdrefn: Negyddol

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud mân gywiriadau technegol i'r ffordd y mae'r offerynnau statudol a ganlyn o ran Cymru mewn perthynas ag ymadael â'r UE wedi'u drafftio a darnau eraill o ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth o ran Cymru sy'n gwella'r gwaith drafftio ac sy'n angenrheidiol er mwyn i'r llyfr statud fod yn weithredadwy ar ôl y diwrnod ymadael:

·         Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

·         Rheoliadau Llifogydd a Dŵr (Diwygio) (Cymru a Lloegr) (Ymadael â'r UE) 2019

·         Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019

·         Rheoliadau Diogelu Data, Preifatrwydd a Chyfathrebiadau Electronig (Diwygio etc) (Ymadael â'r UE) 2019

·         Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

·         Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 2005

·         Rheoliadau Cyffuriau a Reolir (Goruchwylio Rheolaeth a Defnydd) (Cymru) 2008

·         Rheoliadau Gwybodaeth am Ddisgyblion (Cymru) 2011

·         Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

Mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, ac eithrio rheoliad 10 a wneir o dan adran 78 (1) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017.

Mae rhai o'r diwygiadau yn ymwneud â phwyntiau technegol yr adroddwyd arnynt yn flaenorol gan y Pwyllgor ac y cyfeirir atynt yn y Memorandwm Esboniadol.

Rhiant-Ddeddf: Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 a Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

Fe’u gwnaed ar: 24 Medi 2019

Fe’u gosodwyd ar: 26 Medi 2019

Yn dod i rym ar: